Follow the Buzzard
English|Cymraeg
Arudwy Way

Cliciwch y botymau + a - i chwyddo'r llun. Llusgwch y llygoden i symud o gwmpas

I fwrw golwg ar ein pamffled ar lein cliciwch ymaPDF


Y Daith: O Abermaw (A) cychwynwch o’r orsaf gan groesi’r briffordd a cherdded i fyny heibio’r eglwys ar y dde. Mae’r llwybr yn parhau’n igam-ogam i fyny’r allt lle cewch edrych i lawr ar olygfa o’r dref a’r traeth. Gellir gweld glöynnod byw a’r Frân Goesgoch yma (B). Mae’r Frân Goesgoch brin yn berthynas cain i’r frân gyffredin a chanddi big grom, coch llachar a choesau coch. Trowch wrth Gell Fawr ac yn y man fe welwch domenni mwyngloddio mango o’r 19 Ganrif.

Ymhen milltir mae’r ‘Daith’ yn troi i’r Dwyrain drwy Fwlch y Llan. Wrth y wal, mae’r llwybr yn troi tua’r gogledd a dylid dal ar y cyfle i werthfawrogi’r olygfa odidog o Aber y Fawddach (C) a Chadair Idris y tu draw iddi. Mae’r llwybr yn raddol ddisgyn nes cyrraedd cylch meini bychan Cerrig Arthur (D). Gan esgyn o’r fan yma, mae llwybr bychan iawn yn arwain at Fwlch y Rhiwgyr. Ar ôl y Bwlch, mae angen cymryd gofal gan fod y llwybr yn serth a chreigiog. Ewch heibio’r ffens lle ceir golygfa o’r môr i’r chwith. Tua 0.5 milltir i’r chwith oddi ar y llwybr mae beddrodau neolithig Carneddau Hengwm.

Ymhellach ymlaen ar hyd y trac mae dau gylch meini a charneddau i’w gweld. Chwiliwch am y Bwncath, y Barcud Coch â’i gynffon fforchog, y Gigfran â’i chrawc dwfn, cras ac Ehedydd y Waun. Cerddwch at y wal ac i lawr at y giât (mae Rhan Ganol ‘Y Daith’ yn mynd tua’r Dwyrain yma). Er mwyn mynd i Dal y Bont, cerddwch i lawr am Bont Fadog gan oedi i edrych ar y garreg ganolog gyda dyddiad arni (E) yn wal y bont, yna ymlaen i Lety Lloegr lle’r arferai’r porthmyn ymgynnull ar y daith i Lundain. Yna, dilynwch y llwybr sydd gyferbyn drwy Goed Cors y Gedol gan ddilyn yr afon yn ofalus i lawr at Dal y Bont.

Y daith o chwith: Mae’r daith o chwith yn dechrau ym maes parcio Tal y Bont, yn mynd heibio Tafarn Ysgethin ac yn dilyn yr afon drwy’r coed i Lety Lloegr i ymuno â’r ‘Daith’ heibio Pont Fadog.