Cliciwch y botymau + a - i chwyddo'r llun. Llusgwch y llygoden i symud o gwmpas
I fwrw golwg ar ein pamffled ar lein cliciwch yma
Y Daith: Er mwyn ymuno â'r 'Daith' o Harlech, cychwynwch wrth y Castell a cherdded i fyny'r allt heibio Gwesty'r Llew. Ymhen milltir, wrthy capel, trowch i'r chwith am 0.5 milltir yna fforchio i'r dde, gan ddilyn arwyddbost Cwm Bychan. Ymhen milltir arall, byddwch yn ymuno â Rhan Ogleddol 'Y Daith' gan fynd i'r chwith. Mae'r llwybr yn mynd heibio Rhyd yr Eirin (A) ac yna'n croesi rhostiroedd uchel lle ceir golygfeydd godidog o'r tir a'r môr. Ymhen milltir, edrychwch i'r chwith i weld caer 2500-mlwydd-oed o gyfnod Oes yr Haearn ar Foel Goedog a chael cip ar Lyn Cwm Bychan islaw ar y dde. Gellir gweld Tinwen y Garn yma yn y Gwanwyn a'r Haf ynghyd â'r Bwncath a'r Hebog (B).
Ymhen 2 filltir arall mae'r 'Daith' yn troi i'r chwith (gwyliwch rhag colli'r tro) ac yn dilyn trac o gyfnod Oes yr Efydd (3000 i 4000 o flynyddoedd yn ôl) am filltir arall cyn troi i'r chwith. Yma, cerddwch oddeutu 200 llath i'r gogledd ddwyrain tuag at fryncyn Bryn Cader Faner a chladdfa ysblennydd o gyfnod Oes yr Efydd (C). Mae mwsoglau prin yn y gors ar ochr chwith y llwybr. Mae'r 'Daith' yn mynd heibio rhagor o gladdfeydd, safleoedd seremonïol ac aneddiadau o gyfnod Oes yr Efydd ac Oes yr Haearn wrth ostwng i'r gilffordd ac yn troi i'r chwith a'r chwith eto ar ôl y rhan igam-ogam. Mae'r goedwig dderw hon yn arbennig oherwydd y coed, y Gwybedog Brith, y tair rhywogaeth wahanol o gnocellau'r coed a'r ystlumod sy'n byw yma. Yn y llyn bach, Llyn Tecwyn Isaf, ceir lilis a rhai o weision y neidr a mursennod mwyaf prin Cymru. Gwelir Dyfrgwn yma o bryd i'w gilydd.
Mae'r 'Daith' yn troi ar ei hunion i'r dde i fyny am Eglwys Llandecwyn ac yma ceir golygfa arbennig o hardd o'r Forfa, yr aber (D) a'r Wyddfa. Ymlaen i Lyn Tecwyn Uchaf (E) (sy'n gysylltiedig â chwedl enwog y wrach Dorti Ddu) cyn troi i'r chwith am y briffordd.
Y daith o chwith: Er mwyn cerdded Rhan Ogleddol y daith o chwith, sef Llandecwyn i Harlech neu Lanfair, dechreuwch drwy gerdded i fyny'r allt o'r groesffordd yn Llandecwyn tuag at gychwyn 'Y Daith' ymhen 200 llath ar y chwith.