Taith Ardudwy – Llwybr ucheldirol 24 milltir wedi’i arwyddo’n dda sy’n mynd o dde Abermaw i ogledd landecwyn. Ceir tair rhan i’r daith a thaflen ar gyfer bob un; De: Abermaw i Dal y Bont (8milltir) Canol: Tal y Bont i Harlech (13 milltir) Gogledd: Harlech i Llandecwyn (12 milltir).
Mae’r Daith yn croesi ardal Ardudwy, cwmwd hynafol (ardal weinyddol yn y Canol Oesoedd). Mae’n ymweld â phlwyfi Bae Ceredigion ac yn croesi ffurfiant daearegol Creigiau’r Cambrian sydd ymhlith yr hynaf yng Nghymru ac a adnabyddir fel Cromen Harlech. Mae’r Daith wedi ei dewis i gynnwys rhai o olygfeydd arfordirol a mynyddig gorau yng Nghymru, gan ymweld â safleoedd cynhanesyddol ac chynnig cyfle i weld llystyfiant amrywiol ac adar prin yr ardal.
Mae’r Daith yn bennaf yn defnyddio lonydd tawel a llwybrau ac wedi eu nodi â logo’r Fwncath.
Dylid nodi nad oes cyfleusterau na chaffis ar hyd y Daith.