Follow the Buzzard
English|Cymraeg
Arudwy Way

Cliciwch y botymau + a - i chwyddo'r llun. Llusgwch y llygoden i symud o gwmpas

I fwrw golwg ar ein pamffled ar lein cliciwch ymaPDF


Y Daith: Er mwyn ymuno â’r ‘Daith’ o Dal y Bont, cerddwch o’r maes parcio, ewch heibio Tafarn Ysgethin a dilyn y llwybr ar hyd yr afon drwy’r goedwig (cymerwch ofal mewn rhai mannau). Wrth y gefnffordd, trowch i’r dde, dros Pont Fadog yna lle mae’r llwybr yn fforchio, ymunwch â Rhan Ganol y daith. Mae’r ‘Daith’ yn dilyn ochr arfordirol Mynyddoedd Rhinog ac yn mynd drwy nifer o safleoedd lle mae cynefinoedd bywyd gwyllt
pwysig.

Mae caer o gyfnod Oes yr Haearn, Craig y Dinas, i’w gweld yn amlwg ar y chwith. Gwrandewch yn astud i glywed y cigfrain sy’n nythu yn y clogwyni gerllaw. Arferai Pont Ysgethin (A) fod yn lwybr hanesyddol o bwys. Yn anhygoel, arferai’r goets fawr groesi’r mynyddoedd yn y fan yma i fynd i Bontddu. Mae’r ‘Daith’ yn ymuno am ychydig gyda thrac wyneb caled ac yna’n ei adael i ddilyn trac gwyrdd ar y dde. Gellir gweld y Barcud Coch (B) wrth ddilyn y trywydd hwn. Yn Nhal y
Ffynhonnau, ewch i’r dde ac ymhen 0.5 milltir mae’r ‘Daith’ yn troi i’r dde ar hyd y gefnffordd (trowch i’r chwith yma am Ddyffryn Ardudwy). Ewch heibio’r cloddfeydd mango hanesyddol a Ffynnon Enddwyn, ac ar ôl cyrraedd y man lle mae’r olygfa i’w gweld, dilynwch y llwybr i lawr i gorsydd Cwm Nantcol lle ceir planhigion a glöynnod byw prin. Gwelir Tinwen y Garn a geifr (C) yn aml yn y fan yma.

Mae traciau fferm yn arwain tuag at bont Pen y Bont (hen bont y goets fawr arall). Edrychwch am Fronfraith Fach y Dwr a’r Siglen Lwyd yma (trowch i’r chwith yma er mwyn mynd am Lanbedr). Mae’r ‘Daith’ yn parhau i’r dde ar hyd y ffordd ac yn y man mae’n troi’n lwybr ac yn mynd heibio i lyn bychan (D) i’r mynyddoedd lle mae’r Bwncath, Melyn yr Eithin ac Ehedydd y Waun yn gyffredin. Trowch i’r chwith ar y gefnffordd (E) a dilyn y ffordd i Harlech neu Lanfair, neu fel arall trowch i’r dde, yna’r chwith er mwyn parhau i ddilyn Rhan Ogleddol ‘Y Daith’.

Y daith o chwith: Mae’r daith o chwith, sef Harlech i Dal y Bont, yn dechrau uwchlaw Castell Harlech, gan fynd i fyny’r allt serth heibio Gwesty’r Llew. Ymhen milltir, trowch i’r chwith wrth y capel, yna ymhen 0.5 milltir, ewch i’r dde gan ddilyn arwyddbost Cwm Bychan. Ymhen milltir arall o gyrraedd ‘Y Daith’, trowch i’r dde.